Cysylltwch â ni

Newid mewn amgylchiadau

A ydyw eich amgylchiadau wedi newid?

Os ydych yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth , Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol, Pensiwn dros 80 neu Gredyd Pensiwn ac angen dweud wrthym am y newid yn eich manylion, ffoniwch ni.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn drwy ffonio

Dewch o hyd i’r cyfeiriad a manylion cyswlltch eich canolfan bensiwn

Os ydych yn derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf ac angen dweud wrthym am y newid yn eich manylion, cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Beth rydym angen angen ei wybod?

Dywedwch wrthym yn syth os fydd unrhyw o’r pethau canlynol yn newid:

Eich manylion personol

  • Mae eich manylion banc yn newid
  • Rydych yn newid eich enw
  • Rydych yn dod yn anabl
  • Rydych yn priodi neu ysgaru
  • Daethoch yn ran o bartneriaeth sifil neu mae’ch partneriaeth sifil wedi’i ddiddymu
  • Mae eich partner neu briod yn marw
  • Rydych yn dechrau neu roi’r gorau i wneud gwaith gwirfoddol

Ple rydych yn byw

  • Rydych yn symyd ty
  • Rydych yn mynd dramor
  • Rydych yn mynd i mewn i’r ysbyty neu mae rhywun rydych yn gwneud cais drostynt yn mynd i mewn i’r ysbyty
  • Rydych yn y ddalfa yn bwrw dedfryd a benwyd gan y llys
  • Rydych yn mynd i mewn i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio

Y rhai sydd yn byw gyda chi

  • Eich partner neu briod yn symud i mewn gyda chi neu yn symud i ffwrdd
  • Mae rhywun nad ydynt yn dibynnu arnoch yn ariannol yn symud i mewn neu allan o’ch cartref.

Eich sefyllfa ariannol

  • Rydych wedi cael dyfarniad o fudd-dal
  • Mae unrhyw fudd-daliadau arall rydych yn ei dderbyn wedi newid
  • Mae unrhyw incwm arall rydych yn ei dderbyn yn newid
  • Mae eich cynilion neu fuddsoddiadau yn newid*
  • Mae eich pensiwn galwedigaethol yn newid*
  • Rydych yn dechrau neu'r rhoi'r gorau i wneud gwaith â thâl

* Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn neu wedi cael dyfarniad o Gyfnod Incwm wedi’i Asesu nid ydych angen dweud wrthym am y newidiadau yn eich cynilion a buddsoddiadau neu bensiynau galwedigaethol.