Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Sut ydw i'n gwneud cais?

Felly pryd y gallaf wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth?

Anfonir gwahoddiad atoch fel arfer i wneud cais pan fyddwch bedwar mis o oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 65 oed yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a 60 oed ar gyfer merched, ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn newid - bydd yn codi yn raddol o 60 oed i 65 oed o 2010 i 2020.

O 6 Ebrill 2020, 65 oed fydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched. Bydd oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046, gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd.

Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a’r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i weld y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn derbyn gwahoddiad i wneud cais?

Os oes gennych bedwar mis neu laines cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac nad ydych wedi cael gwahoddiad i wneud cais, ffoniwch linell ceisiadau Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 300 2084 (ffôn testun 0845 300 2085) rhwng 8am a 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn.

Gwnewch yn siwr eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl ar ôl hynny er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael eich taliad cyntaf ar amser. Neu gallwch ddarllen ac argraffu ffurflen gais. Gallwch hefyd wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn. Mae hyn yn broses gyflym ac effeithlon ac bydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ar amser. Y rhif i ffonio yw 0845 300 1084. Yn ystod y galwad byddwch yn cael eich cynghori am Fudd-daliadau/cynnyrch eraill e.e Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor efallai sydd gennych hawl iddynt.

Gwneud y gorau o fywyd yn ddiweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Rhagor am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Gallwch ddarllen ac argraffu neu archebu copi o Pensiynau'r Wladwriaeth - Eich canllaw neu ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth o'n canolfan adnoddau.

Darllenwch fwy am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ein hadran ABC.

Credyd Pensiwn

Cewch ragor o wybodaeth am p'un a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn ein hadran Credyd Pensiwn